HafanGwybodaethBle ?Sut ?FferylliaethDeintyddolCysylltwch â  ni

 

Beth ydyn ni'n wneud ?

  Mae Morfa Doc yn wasanaeth allan o oriau meddygon teulu ar gyfer problemau meddygol na all aros tan y diwrnod gwaith canlynol i gael triniaeth.

Pan fyddwch yn cysylltu â Morfa Doc, byddwn yn eich trosglwyddo i nyrs gymwys gyda hyfforddiant arbenigol ym maes blaenoriaethu. Penderfynir ar y camau gorau i'w cymryd gan ddefnyddio system gyfrifiadurol.

DERBYN Y DRINIAETH IAWN!

Trwy wneud y dewis iawn ar yr amser iawn, byddwd yn derbyn y driniaeth orau posibl trwy'r GIG. Gellir rheoli sawl salwch bob dydd gartref, gyda chyngor am ddim gan y fferyllydd neu Galw Iechyd Cymru 0845 4647

Hunan ofal

Bydd cwpwrdd meddyginiaeth llawn yn eich helpu i drin sawl salwch bob dydd gartref.

 

Fferyllfa

Gall fferyllwyr gynnig cyngor ar feddyginiaethau a sut i'w cymryd. Hefyd, gallant gynnig cyngor ar gwynion cyffredin fel annwyd, tagu, poenau a materion iechyd eraill fel bwyta'n iach a rhoi'r gorau i ysmygu. Gallwch siarad gyda'r fferyllwyr yn gyfrinachol-hyd yn oed am y symptomau mwyaf personol. Mae gan y rhan fwyaf o fferyllwyr ystafell dawel oddi wrth y cwsmeriaid eraill ble gallwch siarad gyda'r fferyllydd yn breifat.

Galw Iechyd Cymru

Mae Galw Iechyd Cymru yn wasanaeth cyngor a gwybodaeth iechyd 24 awr, wedi'i staffio gan nyrsys a chynghorwyr proffesiynol, gan gynnig gwybodaeth gyfrinachol ar:

Beth i'w wneud os byddwch chi neu aelod o'r teulu'n sâl;
Cyflyrau iechyd penodol;
Gwasanaethau iechyd lleol (fel meddygon, deintyddion neu fferyllwyr allan o oriau); a
Sefydliadau hunan gymorth neu gefnogaeth.

Gallwch ffonio Galw Iechyd Cymru 0845 4647. Codir cyfraddau lleol fesul galwad. Cofnodir pob galwad er diogelwch cleifion.

Galw Iechyd Cymru Ar Lein

Gallwch gael cyngor iechyd ar lein gan Galw Iechyd Cymru

www.nhsdirect.nhs.uk

      

Eich Meddygfa

Mae eich meddygfa'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:

Cyngor meddygol cyffredinol a thriniaeth;
Presgripsiynau;
Atgyfeirio i arbenigydd neu ysbyty;
Imiwneiddiadau; a
Phrofion.

Mae gan bob meddyg teulu wasanaeth brys y tu allan i oriau'r feddygfa. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer problemau brys yn unig na all aros i gael triniaeth yn ystod oriau arferol y feddygfa. Fodd bynnag, os byddwch yn dal yn ansicr ynglyn â'r ffordd orau i ddelio gyda'ch symptomau, gall Galw Iechyd Cymru eich cynghori.

Damwain ac Argyfwng/999

Pan mae'n dod i'ch iechyd chi neu iechyd aelod o'ch teulu, fel arfer mae'n amlwg iawn os bydd y person yn sâl iawn ac angen gofal brys. Dylech gael sylw meddygol naill ai trwy fynd i'r adran damwain ac argyfwng (D&A) neu trwy ffonio 999 am ambiwlans brys.

 

Deintyddol GIG

Ffoniwch 24 awr y dydd ar 0845 6010128 i gael cyngor deintyddol arbenigol neu i drefnu apwyntiad mewn clinig deintyddol brys.